Noson gyntaf Lohengrin

23 Mai 2013

Agorodd Lohengrin Wagner neithiwr yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i gynulleidfa gynhyrfus a oedd yn cynnwys Tywysog Cymru. Mae ein cynhyrchiad newydd, a berfformir ym mlwyddyn deucanmlwyddiant y cyfansoddwr, wedi’i gyfarwyddo a’i ddylunio gan Antony McDonald dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Cerdd, Lothar Koenigs.  Cymerwch gipolwg ar luniau’r cynhyrchiad ac edrychwch ar y rhagflas i gael syniad o greadigaeth Antony ac i wrando ar y gerddoriaeth.

Darllenwch yr adolygiadau – os oeddech chi yno, neu os ydych am ddod i berfformiad yn y dyfodol, lleisiwch eich barn drwy drydar @WNOtweet gan ddefnyddio #wnolohengrin.