12 Chwefror 2013
Newydd cyffrous sydd gennym yw cyhoeddi y bydd BBC Radio 3 yn darlledu ein cynhyrchiad newydd o Lulu ar Ddydd Sadwrn 25 Mai am 6pm, a dilynir hynny drannoeth gan ddarllediad byw o’n cynhyrchiad newydd o Lohengrin.
Ni alwn ddisgwyl i gampwaith tywyll Berg gael ei drawsgludo i’ch ystafell fyw ac i chwedl dylwyth teg epig Wagner ymagor yn eich cegin. Ble fyddwch chi wrthi’n gwrando? Gadewch inni wybod drwy drydaru @WNOtweet gan ddefnyddio #wnoradio.
Gadewch inni wybod eich barn am y ddau ddarllediad opera, os ydych yn dod yn bersonol i’w gweld, drwy ddefnyddio #wnolulu a #wnolohengrin.