Rwy’n un o’r Tuduriaid - wyt ti?

29 Awst 2013

Wyt ti’n deilwng o sedd yn Llys y Tuduriaid? Oes gen ti’r gallu i oroesi mewn byd sy’n llawn o frenhinoedd cyfrwys a breninesau cystadleuol?
 
Mae WNO wedi lansio gêm ryngweithiol wedi’i hysbrydoli gan y Tuduriaid. Yn y gêm, cewch sawl cwestiwn gan aelod o Lys y Tuduriaid, sy’n penderfynu a ydych yn haeddu dod yn ŵr llys, neu tybed a oes tynged arall yn eich disgwyl...
Chwaraewch y gêm:  iamtudor.co.uk

Cynhyrchwyd y prosiect gan yello brick – cwmni yng Nghaerdydd sy’n helpu i gynnal prosiectau cyfranogol wrth adrodd stori ar sawl platfform.