The Sleeper i’w darlledu ar BBC Radio 4

11 Mehefin 2013

Yn ystod haf 2011, perfformiodd Opera Ieuenctid WNO The Sleeper gan y cyfansoddwr Stephen Deazley (gyda libreto gan Michael Symmons Roberts) am y tro cyntaf yn y byd. Mae’r opera’n adrodd stori am gymdeithas ble mae cysgu wedi diflannu’n llwyr, ac mae’n rhaid i griw ifanc o bobl warchod yr un ‘cysgwr’ sy’n weddill yn eu cymdeithas. Yng nghynhyrchiad yr Opera Ieuenctid, fe arweiniodd The Sleeper y gynulleidfa drwy faes parcio tanddaearol, twnnel tarpolin ac i neuadd y Gyfnewidfa Lo mewn perfformiad promenâd.

Nawr mae The Sleeper wedi cael ei addasu’n ddrama radio a gefnogir gan drac sain o gerddoriaeth wreiddiol a cherddoriaeth wedi’i haddasu, sy’n cael ei chanu gan 25 o aelodau Opera Ieuenctid WNO (a oedd yn ymwneud yn flaenorol â’r cynhyrchiad yn 2011), 40 o aelodau Cerddorfa WNO a Stephen Deazley. Mae cast y ddrama’n cynnwys Maxine Peake (Shameless ar Channel 4, Dinnerladies a Silk ar y BBC) a Kevin Doyle (Downton Abbey ar ITV) ymhlith nifer o actorion eraill. Bydd The Sleeper yn cael ei darlledu ar 15 Mehefin, 2.30pm-3.30pm, fel rhan o gyfres BBC Radio 4 o ddramâu o dan y teitl ‘Dangerous Visions’. Rhagor o wybodaeth am addasiad BBC Radio 4 o The Sleeper.

Mae Opera Ieuenctid WNO yn dychwelyd fis Awst eleni gyda chynhyrchiad newydd o Paul Bunyan gan Britten, sy’n cael ei pherfformio ym mlwyddyn canmlwyddiant y cyfansoddwr ac yn cynnwys lleisiau Stephen Fry a’r côr a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain’s Got Talent, Only Boys Aloud. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu, ewch i dudalen Paul Bunyan.