Weffaith economaidd cyllid i'r celfyddydau

2 July 2013

Er bod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yr wythnos hon wedi lleddfu bygythiad disymwth y toriadau sylweddol yn y cyllid i’r celfyddydau, ysgrifennwn i gefnogi’r ddadl economaidd dros barhau â’r cyllid cyhoeddus i’r celfyddydau fel cyfraniad pwysig i gryfder economi Prydain. Mae Maria Miller, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi gofyn am gefnogaeth i hyn.

Gweithgareddau sydd wedi’u diffinio’n eang fel rhai creadigol masnachol sydd i gyfrif am 10% o’r cynnyrch cenedlaethol. Mae gan Brydain safle arweiniol byd-eang yn sector hwn, fel sydd ganddi ym maes gwasanaethau ariannol a busnes, fferylleg, a’r fasnach arfau. Gyda’r cyllid yn lleihau ar ôl gormodaeth yr argyfwng diweddar, prin y gall y wlad hon fforddio esgeuluso maes rhagoriaeth o’r fath y gallwn oll fod yn falch ohono, ac sy’n denu gweddill y byd i’r wlad hon yn eu lluoedd. O’r herwydd, ymysg pethau eraill, mae byd celfyddydau egnïol Prydain yn ffynhonnell atyniadau bwysig i’r twristiaid y mae eu gwariant a sgil-effeithiau’r gwariant hwnnw’n bwrw cyfrif am o leiaf 6% o’n cynnyrch cenedlaethol; hwn yn syml yw mantais “luoswr” amlycaf y celfyddydau i’r economi.

Mae adroddiad diweddar ar Gyfraniad y celfyddydau a diwylliant i’r economi genedlaethol, a gomisiynwyd gan y Cyngor Celfyddydau oddi wrth y Ganolfan Economeg ac Ymchwil Busnes, yn rhoi dadansoddiad argyhoeddedig o’r modd y mae’r celfyddydau sydd wedi’u hariannu’n gyhoeddus, drwy gyfrwng rhan fechan o’r sector creadigol masnachol ehangach, yn hanfodol i feithrin y ddawn a’r creadigrwydd sy’n ei symbylu. Mae’r angen i annog creadigrwydd ym mynd ymhellach; mae ar yr economi gyfan angen arloeswyr os yw Prydain am gael dyfodol ffyniannus mewn byd cynyddol gystadleuol.

Gydag ein treftadaeth gyfoethog a’n sector diwylliannol cadarn, mae Prydain yn “cystadlu yn erbyn y mawrion” yn y byd, ac yn manteisio i’r eithaf ar gyffredinolrwydd yr iaith Saesneg. Rhaid i ni gynnal hyn. Mae “Mens sana in corpore sano” yn berthnasol ar lefel genedlaethol yn ogystal ag ar lefel bersonol. Er mwyn sicrhau potensial gorau’r economi rhaid rhoi rhwydd hynt i gronfeydd doniau’r wlad hon, doniau y mae creadigrwydd yn rhan mor fawr ohonynt.

Daw’r llythyr hwn oddi wrth nifer o aelodau Clwb yr Economi Wleidyddol ac eraill. Chwaraeodd un o’r cyn Ysgrifenyddion, John Maynard Keynes, ran holl bwysig i sefydlu’r Cyngor Celfyddydau. Dros amser, dylai’r cyllid o bosib symud mwy at ffynonellau cyllid lleol, yn hytrach nag oddi wrth y llywodraeth ganol, ond ar y funud hon bydd yr economi yn elwa drwy fod ei chyllideb yn parhau i gael cefnogaeth gan y Trysorlys. Ystyriwn fod cefnogaeth gyhoeddus i’r Celfyddydau yn holl bwysig i’n heconomi.

Yn gywir,
Charles Dumas, Ysgrifennydd, Clwb yr Economi Wleidyddol
Ian Byatt
John Chown
Haruko Fukuda
Charles Goodhart
Peter Jay
Rachel Lomax
Peter Lyon
David Marsh
Douglas McWilliams
Geoffrey Maynard
Michael Nevin
Peter Oppenheimer
Alan Peacock
Gordon Pepper
John Plender
Harold Rose
Richard Sargent
Peter Sinclair
Robert Skidelsky
Christopher Smallwood
Peter Warburton