WNO yn datgelu’r set a’r gwisgoedd ar gyfer The Tudors

26 Mehefin 2013

Hoffech chi wybod sut fydd byd cynyrchiadau newydd WNO, Anna Bolena, Maria Stuarda a Roberto Devereux yn edrych? Daeth yr aros i ben, wrth i ni ddatgelu dyluniadau’r set a’r gwisgoedd gan Madeleine Boyd heddiw. Caiff y tair opera eu perfformio ar un set ond ceir naws arbennig, gwahanol i bob un ohonynt: o Anna Bolena sy’n deffro naws  bygythiol llys Harri’r VIII, i garchariad Mary yn Maria Stuarda, i’r hunllefus Roberto Devereux. Cymerwch olwg ar y delweddau o ddyluniad y set a chamu i mewn i fyd y Tuduriaid...

Hefyd ar gael i’w gweld yn awr y mae dyluniadau'r gwisgoedd. Mae’r gwisgoedd yn deffro’r cyfnod ond mae iddynt hefyd elfen fodern annisgwyl.

Ymwelwch â thudalen The Tudors i ddysgu rhagor am y gyfres opera hon ac am ein rhaglen o ddigwyddiadau ategol.