WNO yn The Opera Awards 2013

24 Ebrill 2013

Cynhaliwyd y Gwobrau Opera cyntaf eleni ar 22 Ebrill, a bu gan WNO ran fawr yn y dathlu. Hoffem longyfarch ein henillwyr i gyd gan gynnwys Daniele Rustioni am ennill ei gategori am y Newydd-ddyfodiad Gorau (arweinydd neu gyfarwyddwr), Antony McDonald am y Dylunydd Setiau Gorau, Sophie Bevan am y Canwr/Cantores Ifanc Gorau, a Buki Shiff am y Dylunydd Gwisgoedd Gorau.


Bydd Daniele Rustioni yn arwain Anna Bolena a Roberto Devereux yn ein tymor Tuduriaid yn yr hydref, tra bod Antony McDonald yn gyfarwyddwr a dylunydd ein cynhyrchiad o Lohengrin Wagner sydd i ddod yr haf yma. Canodd enillydd y categori Canwyr Ifanc, Sophie Bevan, rôl deitl Vixen yn ein cynhyrchiad diweddar o The Cunning Little Vixen yn ein tymor Ysbrydion Rhydd y gwanwyn yma. Gweithiodd Buki Shiff gyda ni ar ein cynhyrchiad o Die Meistersinger von Nürnberg yn ein tymor haf 2010.


Newydd-ddyfodiad (arweinydd neu gyfarwyddwr) Daniele Rustioni


Dylunydd Setiau Antony McDonald


Canwr/Cantores Ifanc Sophie Bevan


Dylunydd Gwisgoedd Buki Shiff


I wylio uchafbwyntiau byr o’r Gwobrwyo, ewch i www.operaawards.org/video2013.aspx