Yn llawn hudoliaeth

26 Chwefror 2013

Efallai bod mynd yn hŷn yn cnoi’r cymeriadau dynol yn opera aml-haenog Janácek am fywyd, marwolaeth a chwant dynion ac anifeiliaid, fel yr oedd yn cnoi’r cyfansoddwr ei hun. Ond nid yw wedi niweidio cynhyrchiad penigamp David Pountney a grëwyd gan Opera Cenedlaethol Cymru a Scottish Opera. Yn llawn hudoliaeth, bywiogrwydd doniol, ac ymarferoldeb technoleg isel, mae sioe Pountney wedi bod wrthi’n teithio’r byd bellach am 33 o flynyddoedd ac mae gwisgoedd y ddiweddar Maria Bjornson a’i set o fryniau clytwaith - tirlun y Teletubbies cyn ei amser - yn dal i godi gwenau boddhad. 


Ac felly’r symud sydd ynddi. Yn cael ei chanu yn Saesneg idiomatig Pountney, gyda’r cynhyrchiad a atgyfodir gan Elaine Tyler-Hall, mae’r creaduriaid gorfywiog sy’n bwrw’u tinau dros eu pennau yn taro cytundeb deniadol gyda’r cymeriadau sy’n stelcian yn ei chymhares o stabl Caerdydd, Lulu gan Berg.


Mae Pountney, sy’n bennaeth Opera Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd, wedi bwrw’r operâu hyn o’r 1920au a’r 1930 at ei gilydd i amlygu’r hyn a wêl fel dolen ddirgel y ddwy arwres: maent ill dwy yn “chwiorydd drwg”, yn rymoedd benywaidd a ffeministaidd aflonyddol sy’n dychryn y gwryw modern cynnar i’w seiliau.


Safbwynt dilys, yn wir, er ei fod yn aros yng nghilfachau’r meddwl wrth i’r hollbresennol Sophie Bevan, sy’n hynod athletaidd yng nghoreograffi penigamp Stuart Hopp, wneud ei champau fel y Llwynoges sy’n dianc rhag crafangau’r Coedwigwr ac sy’n parhau yn rym bywiol hyd yn oed ar ôl marw. Nid yw pob un o eiriau Bevan yn llamu dros y gerddorfa, wedi’i harwain yn groyw iawn gan Lothar Koenigs, er na allai neb amau angerdd ecstatig ei deuawd dau gariad gyda Sarah Castle fel y Llwynog. Ymysg y rhannau llai niferus i anifeiliaid, mae Julian Boyce yn gwneud Ci dolefus da, mae Laurence Cole yn hollol biwis fel y Mochyn Daear, a phwy allai wrthsefyll llinell gorws dorsyth yr ieir? O ran miniogrwydd cymeriadu, fodd bynnag, y bodau dynol sy’n ennill y dydd. O ran traw a thôn efallai bod Jonathan Summers angen ambell ddiferyn o olew treuliau, ond mae pob gair gan ei Goedwigwr rhwystredig yn taro’r nod. Mae’r un peth yn wir am Ysgolfeistr melancolaidd Alan Oke, Potsiwr mwy egnïol David Stout a Pherson  Richard Angas – y math ddylai wneud plwyfolion o ferched yn ochelgar dros ben.


Mae opera Janácek a’r cynhyrchiad hwn yn saethu o gwmpas dros y lle i gyd, ond gan ddod i orffwys yn deimladwy yn yr olygfa olaf, pan fo cylch natur yn dechrau eto. Ym monolog Summers ddydd Sul roedd angen mwy o orawen, mwy o ryfeddu; ond roedd athrylith Janácek yn dal gyda ni, ynghyd â llewyrch melodaidd y gerddorfa, a rhyfeddodau coedwig Bjornson.


Adolygwyd gan Geoff Brown