OperaQuest

Os byddwch yn cyflwyno plentyn i opera’n gynnar, bydd atgofion yn ffurfio a bydd y cariad at opera yn tyfu gyda nhw. Mae ein prosiect OperaQuest yn rhoi’r profiad hwn, a gyda’n brwdfrydedd dros gadw opera yn fyw rydym yn gweithio gydag ysgolion yn Birmingham a Gorllewin Canolbarth Lloegr i ddarganfod byd opera ac ymchwilio iddo drwy gyfres o weithdai yn yr ystafell ddosbarth. Dilynir hyn gan ymweliad â pherfformiad practis gwisgoedd lle cyflwynir rhyfeddodau opera fyw i’n llygaid ifanc. Rydym hefyd yn darparu pecynnau athrawon sy’n helpu’r plant a’r athrawon i ddysgu gyda’i gilydd.

Dyluniwyd OperaQuest gan Children and the Arts ac fe’i cyflwynir gan Opera Cenedlaethol Cymru a Birmingham Hippodrome. Ewch i wefan Children and the Arts

Os hoffech ddarganfod mwy am y prosiect, ffoniwch Rhian 029 2063 5064.