Paul Bunyan

Mae Opera Ieuenctid Opera Cenedlaethol Cymru yn defnyddio arbenigedd a sgiliau cwmni opera rhyngwladol i gefnogi datblygiad proffesiynol perfformwyr ifanc a lleoliadau technegol. Ffurfir ensemble Opera Ieuenctid newydd bob dwy flynedd ac maent yn treulio’r flwyddyn ddilynol yn paratoi ar gyfer cynhyrchiad llwyfan llawn. Dros y degawd diwethaf mae’r Opera Ieuenctid wedi ennill enw da fel ensemble theatr cerdd eithriadol.

I nodi canmlwyddiant geni Britten yn 2013, bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno perfformiadau cyntaf gan Opera Ieuenctid nodedig Opera Cenedlaethol Cymru yn Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae’r perfformiad godidog hwn yn cynnwys grymoedd Only Boys Aloud a Stephen Fry fel llais Paul Bunyan.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch yr Opera Ieuenctid, anfonwch e-bost paula.scott@wno.org.uk.

If you have any questions about WNO Youth Opera, email Paula Scott.