Gydag ein cynhyrchiad newydd o Lohengrin gan Wagner rydym ni’n talu teyrnged, ym mlwyddyn ei ddau ganmlwyddiant, i un o’r ffigyrau mwyaf ysbrydoledig, dadleuol a phwysig yn ein diwylliant Ewropeaidd.
Roedd egni creadigol diwyro Wagner yn ei brocio’n barhaus i herio ffiniau’r posibiliadau cerddorol, theatraidd ac ysbrydol. Mae Lohengrin eisoes yn lled gyfeirio at y llwybr a fyddai’n ei arwain at Parsifal, a’r tu hwnt i hynny, at weledigaeth o’r Buddha na wnaeth fyw i’w chyfansoddi.
Dyma’r ciw ar gyfer gwaith rhyfeddol Jonathan Harvey, Wagner Dream sy’n cymryd fel ei fan cychwyn ddiddordeb Wagner, yn nyddiau olaf ei fywyd yn Fenis, yn y Buddha, a’r syniad o droi cefn ar y byd ac amgyffred realiti ysbrydol. Mae Harvey, sy’n Fwdist ei hun, wedi creu sgôr syfrdanol o hardd a phwerus, gan ddefnyddio dulliau electronig yn bennaf i ysgogi graddfa a phŵer byd sain Wagner.
14 Mai - 18 Mai
Eisteddwch ar y llwyfan wrth i gast aml genhedlaeth o dros 60 o berfformwyr eich tywys ar siwrnai hiraethlon drwy’r 100 mlynedd diwethaf o’r Park and Dare Theatre, Treorci, gyda thrac sain eiconig o ganeuon poblogaidd o bob degawd yn cael eu perfformio gan The
Treorchy
1 Dinas
21 Mai
David Pountney yn siarad gyda nofelydd a cholofnydd yr Independent, Philip Hensher yn cynnal sgwrs yn ystod ein tymor Breuddwyd Wagner ar y testun: Wagner a’i etifeddiaeth ym mlwyddyn ei ddau canmlwyddiant. Cyflwynydd: Nicola Heywood-Thomas.
22 Mai - 10 Mehefin
Y ffordd berffaith i baratoi ar gyfer tymor Wagner Dream. Bydd ein tîm o arbenigwyr yn cyflwyno storïau, cerddoriaeth a chefndir pob opera i chi.
23 Mai - 15 Mehefin
Mae’r stori tylwyth teg epig hon yn cynnwys rhai o ddarnau cerddoriaeth mwyaf hudolus a hyfryd Wagner.
Cenedlaethol
2 Dinasoedd
24 Mai
Y diwrnod ar ôl y noson gyntaf, mae’r Cyfarwyddwr Antony McDonald, y Cyfarwyddwr Cyswllt Helen Cooper a Peter Wedd sy’n canu Lohengrin yn trafod cynhyrchiad newydd WNO o opera fawr Wagner – gwrthdaro clasurol rhwng da a drwg wedi’i gyflwyno ar raddfa symffonig epig.
1 Dinas
28 Mai - 14 Mehefin
Mae cynhyrchiad clasurol Joachim Herz, gydag arlliw sepia, fel hen lun hardd. Mae’n gipolwg hiraethus ar fyd diflanedig. Mae Madam Butterfly yn argoeli i fod yn noson deimladwy a syfrdanol yn y theatr.
Cenedlaethol
7 Dinasoedd
30 Mai
Mae’r Cyngerdd hwn, yng Ngŵyl y Gelli, y Gelli Gandryll, yn dathlu canmlwyddiant y Bardd Cymreig mawr hwn, yn arddangos lleoliad William Matthias o The Seven Poems Of RS Thomas a’r Abdelazer Suite gan Henry Purcell. Caiff ei berfformio gan ensemble WNO, ei gyfarwyddo gan David Adams, gyda’r tenor Mark le Brocq a gyda’r naratif gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke.
1 Dinas
31 Mai
Dosbarth meistr arbennig i gantorion ifanc sydd am ddysgu am gerddoriaeth y cyfansoddwr gwych hwn.
6 Mehefin - 12 Mehefin
Ychydig o gyfansoddwyr sy’n achosi dadlau gymaint â Richard Wagner. Mae ei fywyd a’i waith wedi arwain at ymrysonau poeth a miloedd o lyfrau a modfeddi colofnau dros y byd i gyd.
Cenedlaethol
2 Dinasoedd
28 Mehefin
Perfformir Symffoni disglair Strauss, Ymdeithgan orfoleddus Byrd a cherddoriaeth heintus y West Side Story Suite, mewn gwrthgyferbyniad â Russian Funeral Music Britten, teyrnged angerddol i’r rhai fu’n ymladd yn erbyn ffasgiaeth ar drothwy’r Ail Ryfel Byd.
Cardiff
1 Dinas