Y Tuduriaid

Un teulu brenhinol drwgenwog

Un cyfansoddwr

Tair opera wych

"Mae’r gyfres o dair opera gan Donizetti sy’n darlunio digwyddiadau, boed wir ai peido, ym mywyd teulu brenhinol y Tuduriaid, yn lansio cyfres a fydd, bob hydref, yn archwilio agweddau ar y genre sy'n cael ei alw'n Bel Canto – “canu hyfryd”, yn y tymor agoriadol hwn a gefnogir gan Brosiect Swansong y Peter Moores Foundation.

Mae pob un o'r tri darn o waith yn rhoi lle blaenllaw i fenywod pwerus a hynod emosiynol, ac mae eu cymeriadau cyferbyniol yn cael eu portreadu'n hyfryd yn egni a naws eu llinellau lleisiol hynod daer. Daw Anne Boleyn, y Frenhines Elizabeth a’i chystadleuydd marwol, Mary Stuart, yn fyw mewn portreadau meistrologar o arddangosiad lleisiol." 

David Pountney

  • Y Tuduriaid - Y Stori Gyfan

    WNO Extra

    4 Medi - 13 Tachwedd

    Y ffordd berffaith i baratoi ar gyfer tymor y Tuduriaid. Bydd ein tîm o arbenigwyr yn cyflwyno storïau, cerddoriaeth a chefndir pob opera i chi.

  • Sgwrs gyda David Pountney - Y Tuduriaid

    WNO Extra

    5 Medi

    David Pountney yn siarad gyda ffigwr allweddol o fyd y celfyddydau wrth iddyn nhw archwilio tymor y Tuduriaid.

  • Anna Bolena

    Gaetano Donizetti

    Cynhyrchiad newydd

    7 Medi - 27 Tachwedd

    Y Tuduriaid
    Mae ymdrech Donizetti i ail ddychmygu dyddiau olaf Anne yn llys cynllwyngar Harri’r Wythfed yn un teimladwy. Mae’n bortread o rywun diniwed sy’n sownd mewn nythaid o wiberod.

    Cenedlaethol
    8 Dinasoedd

  • Maria Stuarda

    Gaetano Donizetti

    Cynhyrchiad newydd

    13 Medi - 28 Tachwedd

    Y Tuduriaid
    Beth fyddai wedi digwydd petai Elisabeth I a Mari Brenhines yr Alban wedi dod wyneb yn wyneb? Ymgais gyffrous i ddychmygu’r digwyddiad hwn sydd wrth wraidd Maria Stuarda.

    Cenedlaethol
    8 Dinasoedd

  • Roberto Devereux

    Gaetano Donizetti

    Cynhyrchiad newydd

    2 Hydref - 29 Tachwedd

    Y Tuduriaid
    Mae Roberto Devereux yn ddrama operatig wyllt sy’n hoelio sylw’r gynulleidfa o’r dechrau i’r diwedd, ac yn arwain at ddiweddglo ysgytwol.

    Cenedlaethol
    8 Dinasoedd

  • Fact and fiction

    WNO Extra

    5 Hydref - 21 Tachwedd

    Mae hanes wedi ysbrydoli artistiaid gwych i ailgreu straeon gwefreiddiol o ddigwyddiadau hanesyddol.

  • Bel Canto Masters: Donizetti

    WNO Extra

    6 Hydref - 29 Tachwedd

    Wrth i ni gychwyn ar ein taith drwy glasuron repertoire bel canto, bydd arbenigwr yn sôn am fywyd a gwaith Gaetano Donizetti.

  • Aelwyd y Tuduriaid

    WNO Extra

    10 Hydref

    Dewch i archwilio Tŷ Masnachwr Tuduraidd yn Ninbych-y-pysgod gyda chymeriadau o oes y Tuduriaid.

  • Diwrnod gyda'r Tuduriaid

    WNO Extra

    24 Hydref

    Dewch i weld dau o'r adeiladau Tuduraidd mwyaf ysblennydd ar y daith fws arbennig hon i Neuadd Speke a Neuadd Little Moreton.

  • Cerddorfa WNO yn Neuadd Dewi Sant - 1 Tachwedd 2013

    Cyngerdd

    1 Tachwedd

    Mae’r Tuduriaid yn gadael y llwyfan operatig i gymryd lle blaenllaw yn y neuadd gyngherddau gyda dau ddarn o waith wedi’u hysbrydoli gan y cyfnod.

    Cardiff
    1 Dinas