Y Tuduriaid

Heads will roll

Mae’r Tuduriaid gan WNO yn ddigwyddiad nodedig. Dyma’r tro cyntaf i operâu ’Tair Brenhines’ Donizetti gael eu perfformio gyda’i gilydd ym Mhrydain. Mae’r Tuduriaid yn cyfuno holl ddrama a chyfaredd y nofelau hanes gorau â rhai o’r darnau mwyaf aruchel o gerddoriaeth ym myd opera. Paratowch am gyfnod na wnewch chi fyth ei anghofio ymysg y teulu brenhinol.

Gŵyr llys yn plotio gyda chymhelliant cudd. Breninesau’r dyfodol yn aros eu tro. Brenhinoedd na allant gymryd na yn ateb. Cariad wedi’ i chwalu wrth i hanes fwrw yn ei flaen. Mae’n anodd dychmygu gwell testun I ddrama ac ysblander opera na y Tuduriaid.

Yn y tair opera hyn, mae Donizetti yn ailadrodd rhai o’r digwyddiadau mwyaf cyffrous yn hanes Prydain drwy gyfrwng cerddoriaeth odidog, gyda throeon annisgwyl ar y ffordd. Byddwch yn cael eich hun yng nghrafangau trafferthion a dirgelion y llys Tuduraidd. Cewch eich cyfareddu hefyd pan glywch rhai o’r darnau cerddoriaeth mwyaf disglair a syfrdanol a ysgrifennwyd erioed ar gyfer y llais. Mae’r operau hyn yr un mor hardd a gwefreiddiol a gwaith poblogaidd Puccini a Verdi, ac maent yn aros i gael eu darganfod gennych chi.

Mae pob opera yn brofiad cyflawn a gellir ei mwynhau ar ei phen ei hun. Drwy brofi’r tair cewch gyfle i ymgolli mewn drama rymus a cherddoriaeth hardd. Caiff y Tuduriaid eu perfformio gan ein Corws a’n Cerddorfa sydd o’r radd flaenaf, ynghyd a gan gast eithriadol ar un set epig mewn gwisgoedd sy’n deffro’r cyfnod gyda thro modern. I gyfannu’r antur operatig hon, ceir rhaglen o ddigwyddiadau i gyd-fynd a pherfformiadau’r noson. Gweler tudalen 8 am fanylion llawn.

Gadewch i Opera Cenedlaethol Cymru a y Tuduriaid gyffroi eich synhwyrau’r hydref hwn.

Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd 7 Medi | 6 Hydref
Theatr y Grand Abertawe 8 Hydref | 12 
Hydref
New Theatre, Oxford 15 Hydref | 19 Hydref
Liverpool Empire Theatre 22 Hydref | 26 Hydref
The Bristol Hippodrome 5 Tachwedd | 9 Tachwedd
Birmingham Hippodrome 12 Tachwedd | 16 Tachwedd
Venue Cymru, Llandudno 19 Tachwedd | 23 Tachwedd
The Mayflower Theatre, Southampton 26 Tachwedd | 30 
Tachwedd

Beth am wyliau Tuduraidd?
Rydym wedi negodi cyfradd arbennig ar gyfer y rheini sy'n dod i weld mwy nag un o operâu Y Tuduriaid.

  • Maria Stuarda

    Gaetano Donizetti

    Cynhyrchiad newydd

    12 Rhagfyr - 14 Rhagfyr

    Y Tuduriaid
    Beth fyddai wedi digwydd petai Elisabeth I a Mari Brenhines yr Alban wedi dod wyneb yn wyneb? Ymgais gyffrous i ddychmygu’r digwyddiad hwn sydd wrth wraidd Maria Stuarda.

    Cenedlaethol
    9 Dinasoedd

Tudalennau

"The Tudors will not only delight lovers of the singer's art, it will also reawaken our understanding of the dramatic power of these essential operas" David Pountney