Swyddfa WNO

Mae pawb yn Opera Cenedlaethol Cymru yn gwneud yr hyn maent yn ei wneud am ein bod yn caru’r hyn rydym yn ei wneud ac am ei rannu gyda chymaint o bobl â phosibl. Mae angen ymdrech tîm enfawr a chymysgfa gyfoethog o sgiliau ac arbenigeddau i sicrhau’r perfformiadau gwych. Yn y theatr mae cantorion y côr, chwaraewyr y gerddorfa, y staff cerddorol, y technegwyr a’r cyfarwyddwyr yn sicrhau bod y sioe yn digwydd. Y tu ôl i’r llenni mae gwneuthurwyr y gwisgoedd a’r propiau ac adeiladwyr y setiau, yn sylweddoli’r cynlluniau i greu’r hyn rydych yn ei weld ar y llwyfan. Cefnogir y gwaith hwn i gyd gan dîm o weinyddwyr sy’n sicrhau ein bod yn gallu gwneud yr hyn rydym yn ei wneud ar y llwyfan. 

Rydym oll yn llawn brwdfrydedd ynghylch operâu gan ein bod i gyd wedi blasu’r grym unigryw sydd ganddynt. Nid oes dim arall fel opera. Fel y dywed un aelod o’r cwmni ‘Opera yw’r byd… wedi ei osod i gerddoriaeth brydferth’. 

Ein gwaith ni yw archwilio’r byd hwnnw gyda chi.