Croeso i Opera Cenedlaethol Cymru

Rydych wedi mewngofnodi’n llwyddiannus, i allgofnodi cliciwch y tab allgofnodi ar frig y sgrin.

Crynodeb


Act 2

Mae’r parti cyn y briodas ar ei hanterth. Mae Dulcamara yn gwahodd Adina i ganu deuawd gydag ef. Mae Belcore yn anfon am y cyfreithiwr lleol i baratoi’r cytundeb priodas, ond mae Adina - sydd yn drist oherwydd absenoldeb Nemorino - yn penderfynu aros cyn rhoi’r pen i bapur.

Mae Nemorino, yn anobeithiol wrth iddo ragweld ei bod yn colli ei gariad, ac yn erfyn ar Dulcamara am ragor o’r cyffur. Mae’r Doctor yn dweud y byddai’n hapus i’w rhoi iddo - ond ei bod yn talu amdano, wrth gwrs. Felly mae Belcore, ei gydymgeisydd, yn awgrymu bod y Nemorino tlawd yn ymuno â’r fyddin er mwyn ennill arian.

Mae’r parti cyn y briodas ar ei hanterth. Mae Dulcamara yn gwahodd Adina I ganu deuawd gydag ef. Mae Belcore yn anfon am y cyfreithiwr lleol i baratoi’r cytundeb priodas, ond mae Adina - yn drallodus oherwydd absenoldeb Nemorino - yn penderfynu aros cyn rhoi’r pen i bapur.

Nid ydyw Nemorino yn sylweddoli ei bod wedi etifeddu ffortiwn, oherwydd marwolaeth ei ewythr. Ond mae Giannetta, un o uwch-weithwyr Adina, wedi clywed y newyddion ac yn dweud wrth y merched i gyd yn y pentref. Ar unwaith, Nemorino ydy’r hen lanc mwyaf cymwys yn yr ardal. Wedi drysu, mae’n meddwl mai achosion y cyffur serch sydd wedi ei gwneud mor boblogaidd gyda’r merched. Mae Dulcamara, hefyd, yn dechrau credo yn gallu ei gyffur ei hun.

Mae Adina, yn poeni y byddai am golli Nemorino i fenyw arall, o’r diwedd yn cydnabod cryfder ei theimladau tuag ato ac yn penderfynu ei ennill yn ôl. Mae Nemorino yn mentro i obeithio y bydd ei freuddwyd o’r diwedd yn dod yn wir. Mae e: Mae Adina, wedi ad-dalu Belcore y tâl recriwtio, yn cyfaddef I Nemorino ei fod yn ei garu. Pan ydynt yn clywed am yr etifeddiaeth, mae eu hapusrwydd yn gyflawn. Mae Belcore yn gorfod gadael heb ddim byd ond mae Dulcamara, yn sicr mae’r holl lwyddiant oherwydd pŵer y cyffur, ac yn gadael yn fuddugoliaethus.