Croeso i Opera Cenedlaethol Cymru

Rydych wedi mewngofnodi’n llwyddiannus, i allgofnodi cliciwch y tab allgofnodi ar frig y sgrin.

Hanes grymus o ffydd, trais, rhyw a synwyrusrwydd, ynghyd â pherfformiad cyntaf Erika Sunnegardh yn y brif ran.
"Mae Salome yn cychwyn nid fel hudoles lednais ond fel merch ddiniwed yn gofyn "Pam mae gŵr fy mam yn edrych arna i fel yna?" Yn ystod yr opera mae hi’n darganfod gwybodaeth, harddwch, serch, ofn, pleser ofni, bod yn ddi-rym a’r teimlad o gael grym anferth - sydd i gyd yn agweddau ar rywioldeb" André Engel, Cyfarwyddwr.

"the score has the pacing of a modern phsychological thriller"

The Guardian

Mae Salome - llysferch y Brenin Herod - yn perfformio dawns gywilyddus y saith gorchudd i geisio’i gyffroi. Mae e’n addo unrhyw beth a fyn hi am wneud hynny - ac mae hi’n mynnu cael pen Ioan Fedyddiwr am fod hwnnw wedi gwrthod cusan ganddi. Pan gyflwynir ei ben iddi, gall Salome wedyn gael ei dymuniad - er iddi dalu’r pris eithaf.

Cynhyrchiad ar y cyd â Scottish Opera

Conductor Lothar Koenigs (excluding 1 April) Conductor Andrew Greenwood (1 April) Director André Engel Designer Nick Rieti Costume Designer Elizabeth Neumuller Lighting Designer André Diot Choreographer François Grès