For more videos click on the experience tab above
The Abduction from the Seraglio is sung in German with an electronic surtitles screen above the stage carrying a translation in English (and Welsh in Wales) of everything that is being sung - so it's easy to follow all the action! Check when booking your tickets that a view of the surtitles is available from the seats you chose.
Running time approximately 3 hours
Supported by

and the WNO Partnership
Act I
O flaen y palas yn ymyl y môr lle mae’r Pasha Selim wedi dod ato’i hun ar ôl colli ei gariad a’i ffortiwn, a’r gwarth o gael ei erlid o Sbaen, sydd wedi ei achosi gan Gadlywydd Oran.
Mae Belmonte Lostados, Sbaenwr cyfoethog, wedi colli ei ddyweddi, Constanza, wrth i forladron ymosod ar eu llong. Mae e wedi hwylio i Dwrci, a Constanza, ei morwyn Seisnig Blonde, a Pedrillo, ei was, wedi eu gwerthu fel caethweision ac yn cael eu cadw’n gaeth yn nhŷ’r Pasha Selim. Mae Selim wedi dewis Constanza fel ei ffefryn, ond hyd yn hyn mae hi wedi llwyddo i osgoi ei sylw ac wedi gwrthod bod yn wraig iddo.
Mae Belmonte yn cyfarfod ag Osmin, gŵr dieflig, penboeth sy’n rheolwr ystâd Selim. Mae’n casáu Cristnogion â’i holl galon. Pan fydd Belmonte yn gofyn yn garedig ai tŷ’r Pasha Selim yw hwn, mae Osmin yn gwrthod rhoi ateb cwrtais iddo. Mae’n ei fygwth â rhestr hir o gosbau os nad aiff i ffwrdd, gan dyngu ar Farf y Proffwyd y bydd yn ei ddal yn y diwedd. Ond pan ddaw Pedrillo, mae Belmonte yn cael ar ddeall ei fod yn y lle iawn. Mae Pedrillo yn dweud wrtho sut y cawson nhw eu cipio a’u carcharu, a dywed wrtho fod Constanza yn dal yn ffyddlon iddo er bod y Pasha yn erfyn arni i’w briodi. Yn lle ceisio dianc, mae Pedrillo yn awgrymu cyflwyno Belmonte i Selim fel pensaer. Mae Constanza gyda Selim ar y cwch pleser, sy’n dod yn nes, ac mae Belmonte yn canu o lawenydd wrth feddwl am ei gweld hi eto.
Mae cwch Selim yn cyrraedd, a daw corws llawen o Janisariaid i’w gyfarch. Mae Selim yn ceisio darbwyllo Constanza i dderbyn y pleserau mae’n eu cynnig. Ond mae Constanza yn canu am ei chariad ffyddlon at Belmonte. Mae Selim yn ei bradychu am fod yn anniolchgar, ac allan â hi. Mae Pedrillo yn cyflwyno Belmonte fel pensaer. Mae Selim yn hoffi ei olwg ac yn dweud y bydd yn galw amdano drannoeth. Yn union ar ôl i Selim adael, ac er gwaethaf gwrthwynebiad Osmin, ânt i mewn i’r palas.
Act II
Yng ngardd y palas. Mae Blonde yn ceisio dweud wrth Osmin sut i ennill calon merch, ond dywed Osmin wrthi mai ef yw’r meistr ac mai caethferch yw hi. Rhaid iddi wneud pethau fel y mae’n e’n mynnu. Mae Blonde yn protestio ei bod hi’n ferch rydd o Saesnes ac na fydd yn gaethferch i neb. Mae’n gwthio Osmin i ffwrdd ac yn bygwth ei daro hanner cant o weithiau ar wadnau ei draed. Mae Osmin yn cwyno mai ffyliaid yw dynion Lloegr i adael i’w merched gael eu ffordd, ond mae’n gadael cyn i Blonde grafu ei lygaid allan. Mae Constanza yn canu cân drist a Selim yn ei hatgoffa mai un diwrnod sydd ganddi i benderfynu ei garu, neu bydd yn achosi ‘pob math o boenydio’ iddi. Dyma’r cyfle am aria fawr Constanza, ‘Martern aller Arten’. Âiff y ddau allan, ac mae Pedrillo yn sibrwd wrth Blonde fod Belmonte wedi cyrraedd, gyda llong yn barod i’w hachub. Mae Blonde yn hapus dros ben a Pedrillo yn canu cân ymosodol, sy’n peri i Osmin ddod i weld beth yw achos yr holl stŵr. Mae Pedrillo yn darbwyllo Osmin i anghofio am waharddiadau Muhammad ac i ymuno ag ef dros wydraid o win. ‘Vivat Bacchus’ medd y ddau, ac i ffwrdd ag Osmin i’r gwely yn feddw fawr. Gan fod y gwyliwr nawr wedi mynd, mae Pedrillo yn dod â Constanza a Belmonte at ei gilydd. Ar ôl mynegi eu llawenydd cychwynnol, mae Belmonte yn dyfalu a yw Constanza hwyrach yn caru’r Pasha wedi’r cyfan. Mae Pedrillo yn awgrymu y gall Osmin fod wedi bod yn caru â Blonde wedi’r cyfan, a chaiff fonclust go iawn am ddweud hynny. Gyda chryn anhawster y caiff Belmonte a Pedrillo faddeuant am fynegi amheuon mor anfaddeuol, a chanant fugato finale: ‘Mae gwir gariad yn ddiddiwedd a dyna’r cyfan a fynnwn; peidiwn â gadael i dân eiddigedd losgi dim mwy!’
Act III
Mae’n ganol nos. Mae Belmonte yn galw ar serch i roi nerth iddo. Mae Pedrillo yn canu baled Fwraidd fel arwydd i bawb ddianc. Wrth i Constanza a Blonde geisio dringo i lawr ar hyd yr ysgol, daw Osmin allan o’i dŷ gan alw am y Janisariaid i’w dal a’u cludo i ffwrdd. Mae’n ymfalchïo wrth feddwl am eu gweld ar y crocbren, ac aiff i ddweud wrth y Pasha am y cipio. Mae Constanza yn erfyn arno i achub Belmonte, ac mae Belmonte yn gofyn am drugaredd, gan ei fod o deulu cyfoethog yn Sbaen a fydd yn barod i dalu unrhyw bridwerth a fyn Selim. Ei enw yw Lostados, ac mae Selim yn adnabod yr enw: tad Belmonte, Rheolwr Oran, yw ei elyn pennaf, a nawr mae Belmonte yn ei afael. Mae’n mynd allan i ddweud wrth Osmin beth i’w wneud â nhw, ac mae Belmonte a Constanza yn canu deuawd drist, yn wylo am eu tynged ac yn tyngu bod yn ffyddlon hyd angau. Daw Selim yn ôl a dweud wrthyn nhw nad oes ganddo ddiddordeb mewn ymddwyn mor greulon â thad Belmonte: yn hytrach, mae am eu rhyddhau a’u hanfon ar eu ffordd. Yn yr olygfa olaf maen nhw’n canu ‘Dylai’r sawl sy’n methu gwerthfawrogi daioni fel hyn gael ei waradwyddo gan bob dyn’. Ond mae Osmin yn filain am nad yw wedi cael cyfle i ddial. Dylent gael eu ‘crogi mewn cadwynau, eu diberfeddu yna eu crogi nes iddyn nhw bydru, eu llosgi’n fyw, eu darnio, eu berwi mewn olew, yna’u lladd!’ Ond y Janisariaid sy’n gorffen yr opera gyda chorws llawen yn canmol y Pasha Selim a’i enwogrwydd.