Dangosiad In Parenthesis yn Theatr Colwyn | Welsh National Opera

Neges Pwysig

Nid yw’r dudalen hon yn cael ei diweddaru bellach – mae’r digwyddiad wedi bod

Gweld holl berfformiadau archif

CrynodebBack to top

dydd Mawrth, Tachwedd 22, 2016

Bydd ein cynhyrchiad o In Parenthesis yn cael ei darlledu yn Theatr Colwyn, Bae Colwyn ar nos Fawrth 22 Tachwedd am 7pm.

In Parenthesis yw addasiad Iain Bell, y cyfansoddwr ifanc Prydeinig, o’r gerdd epig gan David Jones. Comisiynwyd In Parenthesis gan y Nicholas John Trust gyda 14-18 NOW, rhaglen ddiwylliannol y Deyrnas Unedig i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r Preifat John Ball a’i gyd-filwyr yn Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn cael eu hanfon i’r Somme. Ym Mametz Wood maent yn dod ar draws teyrnas ryfedd - y tu hwnt i amser, fel breuddwyd ond yn angheuol. Yn hytrach nad dim ond adrodd straeon am erchyllterau’r Somme, mae In Parenthesis yn meiddio cynnig gobaith.

Mae cynhyrchiad cyfnod David Pountney yn coffau ac yn dwyn i gof digwyddiadau’r Somme. Wedi'i recordio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru mae hon yn gyfle prin i weld ein cynhyrchiad première byd ar y sgrin.

Mae The Space yn cefnogi ffrydio In Parenthesis a'r wefan gysylltiedig. Darganfyddwch mwy ar inparenthesis.org.uk

Dinasoedd