La forza del destino | Welsh National Opera

CrynodebBack to top

dydd Gwener, Chwefror 2, 2018 - dydd Sadwrn, Ebrill 21, 2018

★★★★ “a bold, convincing piece of theatre… with stunning orchestral playing.” The Times
★★★★★ The Independent 
★★★★ The Guardian
★★★★ The Telegraph
★★★★ Western Mail

Cynhyrchiad newydd

Cynllunia Don Alvaro a Leonora hardd i ddianc a phriodi ond pan gaiff ei thad ei ladd gan fwled grwydr o wn Alvaro, mae’n gychwyn ar gadwyn o ddigwyddiadau anochel. Wedi’u gorfodi i ddianc gan eu bod yn cael eu herlid gan ei brawd, sydd wedi tyngu dialedd, teflir y cymeriadau at ei gilydd a’u gwahanu mewn cyfres o gyfarfodydd sy’n gyd-ddigwyddiad. Mae presenoldeb arallfydol a di-hid Preziosilla yn atgoffa na ellir atal grym tynged.

Adroddir opera epig Verdi drwy sgôr fywiog sy’n cynnwys yr Agorawd sy’n gyfarwydd yn syth. Defnyddir hi mewn sgorau ffilm clasurol a hysbysebion. Mae’r cynhyrchiad newydd hwn yn nodi dechrau partneriaeth tair blynedd gyda Theatr Bonn i ddod â chynyrchiadau newydd o rai o operâu gorau Verdi i’r llwyfan. Cyfarwyddir gan David Pountney, Cyfarwyddwr Artistig WNO. Arweinir gan Carlo Rizzi, Arweinydd Llawryfog WNO.

  • Mae perfformiadau yn dechrau am 6.30pm
  • Bydd y perfformiadau yn para tua tair awr gan gynnwys un egwyl 
  • Cenir mewn Eidaleg gydag uwchdeitlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)

#WNOforza

 

Cefnogwyd gan Gyngrhair Verdi WNO

Cefnogwyd gan Kobler Trust

 

Noddwr Trioleg Verdi: Mr Pasquale Terracciano, Ei Ardderchowgrwydd Llysgennad yr Eidal 

Am fanylion am ddyddiadau, amserau a phrisoedd cliciwch ar eich theatr ddewisol ar y dde.

Cast a chreadigolBack to top

Leonora Mary Elizabeth Williams (gan eithrio 21 Ebrill) Claire Rutter (21 Ebrill)
Don Alvaro Gwyn Hughes Jones
Preziosilla/Curra Justina Gringyte
Don Carlo Di Vargas Luis Cansino
Il Marchese di Calatrava / Padre Guardiano Miklós Sebestyén
Preziosilla / Curra i'w gadarnhau
Fra Melitone Donald Maxwell
Mastro Trabuco Alun Rhys-Jenkins 
Alcade Wyn Pencarreg

Arweinydd Carlo Rizzi (gan eithrio Plymouth 27 Mawrth i'w gadarnhau)

Cyfarwyddwr David Pountney
Dylunydd Set Raimund Bauer
Dylunydd Gwisgoedd Marie-Jeanne Lecca
Cynllunydd Goleuo Fabrice Kebour
Coreograffydd Michael Spenceley

FideoBack to top

SainBack to top