Madam Butterfly | Welsh National Opera

Neges Pwysig

Nid yw’r dudalen hon yn cael ei diweddaru bellach – mae’r digwyddiad wedi bod

Gweld holl berfformiadau archif

CrynodebBack to top

dydd Mawrth, Mehefin 27, 2017 - dydd Gwener, Mehefin 30, 2017

Mae Madam Butterfly Joachim Herz wedi bod gyda ni am dros dri degawd ac am reswm da. Mae’n lwyfaniad clasurol a thraddodiadol o’r opera boblogaidd hon. Tra’n gyfan gwbl ffyddlon i fwriadau’r cyfansoddwr, mae hefyd yn trafod imperialaeth yn rymus. Edrycha pob golygfa fel ffotograff sepia lle cawn gipolwg ar fyd diflanedig.

Mae menyw Japaneaidd ifanc, Cio-Cio-San (Madam Butterfly), wedi cydsynio i briodas wedi'i threfnu gyda'r Is-Gapten Pinkerton o Lynges yr Unol Daleithiau. Mae hi'n cymryd y briodas o ddifrif ac yn syrthio mewn cariad, ond iddo ef, dim ond ychydig o hwyl ydyw, i'w ddifyrru tra'i fod ar ddyletswydd yn Japan. Gan adael ei wraig ar ei ôl, aiff Pinkerton i ffwrdd am dair blynedd ac yn ystod yr amser hwnnw, mae Cio-Cio-San yn geni ei blentyn ac yn byw mewn tlodi. Daw Sharpless, is-gennad America i dorri'r newydd iddi bod Pinkerton wedi dychwelyd, ond bod gwraig newydd, Americanaidd gydag ef. O glywed am y plentyn, penderfyna Pinkerton a Kate y dylent ei fabwysiadu. Mewn anobaith, a chan wybod y byddant yn gallu gofalu amdano'n well nag y gall hithau, mae Butterfly yn rhoi'r ffarwel olaf i'w mab ac yn ei lladd ei hunan.

  • Mae perfformiadau yn dechrau am 7.15pm
  • Bydd y perfformiadau yn para tua dwy awr a 45 munud gan gynnwys un egwyl
  • Cenir mewn Eidaleg gydag uwchdeitlau yn Saesneg

#WNObutterfly

Cefnogir gan Gyfeillion WNO

Am fanylion am ddyddiadau, amserau a phrisoedd cliciwch ar eich theatr ddewisol ar y dde.

Dinasoedd

Cast a chreadigolBack to top

Arweinydd Lawrence Foster (tan Maw 4)
Andrew Greenwood (o Maw 24 )
Cyfarwyddwr
Joachim Herz
Cyfarwyddwr y Diwygiad
Sarah Crisp
Dylunydd
Reinhart Zimmermann
Dylunydd Gwisgoedd
Eleonora Kleiber
Meistr y Corus
Stephen Harris
Cynllunydd Goleuo Wreiddiol
John Waterhouse
Paratoad Cerddoral
Stephen Wood, Russell Moreton
Cyfarwyddwr Staff
Christopher Moon-Little
Hyfforddwr Tafodiaith
Paula Quaglia
Rheolwr Cynhyrchu
Robert Pagett
Rhoelwraig Llwyfan
Julia Carson Sims
Rhoelwraig Llwyfan Dirprwy
Sava Bell

Is-Gapten Benjamin Franklin Pinkerton Jonathan Burton (Chwe 10, 12, 18; Maw 2, 4, 24, 31; Ebr 6, 8)
Paul Charles Clarke (Chwe 17; Maw 3, 25; Ebr 1, 20, 22, 27, 29; Meh 27, 29, 30)
Goro a brocer priodasau Simon Crosby Buttle
Suzuki morwyn Rebecca Afonwy-Jones
Sharpless is-gennad America David Kempster
Cio-Cio-San (Madam Butterfly) Karah Son (Chwe 10, 12, 18; Maw 2, 4, 24, 31; Ebr 20, 22, 27, 29)
Linda Richardson (Chwe 17; Maw 3, 25; Ebr 1, 6, 8; Meh 27, 29)
Judith Howarth (Meh 30)
Ei Chyfnither Meriel Andrew
Ei Mam Monika Sawa
Ei Modryb Carolyn Jackson
Yakuside ei hewythr George Newton-Fitzgerald (ex. Maw 2 – 4 )
Julian Boyce (Maw 2 – 4 )
Comisiynydd yr Ymerodraeth Martin Lloyd
Y Cofrestrydd Swyddogol Jack O’Kelly
Y Bonze Richard Wiegold (ex. Ebr 27 & 29)
Jihoon Kim (Ebr 27 & 29)
Y Tywysog Yamadori Alastair Moore
Kate Pinkerton Sian Meinir
Trouble plentyn Cio-Cio-San Leo Adams & Haydn Lockwood
Plentyn Cefnithir Joshua Barnfield & Andre Dacruz
Gwas a Chogydd David Tilley & Derek Tilley
Geishas, perthnasau, mynachod, gweision, morwyr Corus WNO

FideoBack to top

GwrandewchBack to top