Rhondda Rips It Up! | Welsh National Opera

CrynodebBack to top

dydd Iau, Mehefin 7, 2018 - dydd Mercher, Tachwedd 21, 2018

Fe fydd perfformiad cyntaf Rhondda Rips It Up! yn Glan yr Afon, Casnewydd ar 7 Mehefin

Boneddigion a Boneddigesau! Mae WNO yn eich gwahodd yn gynnes i Bremière Byd eu comedi cerddorol afieithus ac anfarwol o ddigrif Rhondda Rips It Up!

Crëwyd yr adloniant tafod yn y boch hwn er eich pleser gan y disglair Ms Elena Langer (cyfansoddwr a swffragét) a’r dihafal Ms Emma Jenkins (libretydd a swffragét).

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym fynd â chi ar daith fythgofiadwy drwy fywyd ac anturiaethau arwres anhysbys mudiad y Swffragetiaid yng Nghymru, Margaret Haig Thomas, Is-iarlles Rhondda.

Yn Swffragét, ymgyrchydd ac entrepreneur, paratôdd yr Arglwyddes Rhondda y ffordd ar gyfer hawliau cyfartal i fenywod. Yn ogystal ag ymgyrchu’n ddiflino dros hawl menywod i bleidleisio, roedd yn fwch dihangol i ymdrechion merched yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, goroesodd drychineb suddo’r Lusitania a sefydlodd y cylchgrawn ffeministaidd radicalaidd Time and Tide. Cafodd ei hymdrechion diflino eu gwobrwyo o’r diwedd pan, yn 1918, etholfreiniwyd menywod dros 30 oed.

Mae’r daith fywiog a doniol hon drwy fyd etholfraint a chân yn cael ei hadrodd drwy gyfrwng y neuadd gerddoriaeth ac yn addas iawn, menywod yn unig yw aelodau’r cast a’r tîm cynhyrchu. Tywysir y gynulleidfa drwy’r stori gan ein Emcee ni (Lesley Garrett) ac mae’n olrhain anturiaethau Lady Rhondda (Madeleine Shaw) a’r fyddin ddewr o swffragetiaid wrth iddynt ymgiprys yn eofn ag Arglwyddi, gwleidyddion a blychau post yn eu hymdrech i sicrhau hawliau i ferched.

Bydd WNO yn tynnu sylw at frwydr menywod dros ryddid a chydraddoldeb ac i oroesi, mewn nifer o ffyrdd: o ddigwyddiadau cymunedol, sgyrsiau a gweithdai mewn ysgolion i arddangosfeydd, profiadau digidol rhyngweithiol yn ogystal â’r cynhyrchiad ei hun.

 

Fe fydd y cynhyrchiad yn cael ei premier yng Nghasnewydd cyn mynd ar daith drwy gydol Mehefin 2018, ac i ddilyn fe fydd ar daith ym mis Hydref a Thachwedd. Dyddiadau Hydref ar werth cyn hir.

 gefnogir gan the Nicholas John Trust, in memory of Joan Moody

Colwinston Charitable Trust 

PRS Foundation's The Open Fund 

The Ambache Charitable Trust

The Leche Trust

John Coates Charitable Trust

RVW Trust

Rhondda Union

Cast a chreadigolBack to top

Emcee Lesley Garrett

Yr Arglwyddes Rhondda Madeleine Shaw

Helen Archdale Anitra Blaxhall

Sybil Rosie Hay

Prid Paula Greenwood

Edith Meriel Andrew

Birkenhead Monika Sawa 

 

Cyfansoddwr Elena Langer 

Libreto Emma Jenkins 

Dylunydd Lara Booth 

Arweinydd Nicola Rose

Cyfarwyddwr Caroline Clegg

Dylunydd Goleuo Elanor Higgins

 

FideoBack to top