Tosca | Welsh National Opera

Neges Pwysig

Nid yw’r dudalen hon yn cael ei diweddaru bellach – mae’r digwyddiad wedi bod

Gweld holl berfformiadau archif

CrynodebBack to top

dydd Gwener, Chwefror 9, 2018 - dydd Gwener, Ebrill 20, 2018

Adfywiad

Efallai bod gan Floria Tosca lawer o edmygwyr, ond does ond ganddi lygad am un dyn, sef y peintiwr Cavaradossi. Ond mae gan Scarpia, Pennaeth yr Heddlu maleisus, syniadau eraill a’i heisiau iddo ef ei hun. Wrth iddo gynllunio i dwyllo’r cariadon a chael beth mae ei eisiau, datblyga digwyddiadau dramatig a thrasig. Mae’n gadael Tosca ar ei phen ei hun yn dal dagr yn ei dwylo gwaedlyd. Ceir tro olaf syfrdanol i ddilyn.

Mae cefndir cythryblus Rhufain yn ystod goresgyniad Napoleon yn lleoliad addas ar gyfer yr hanes gwefreiddiol hwn am gariad, chwant, ffyddlondeb a llygredd. Nodwedda Puccini’r ddrama drwy ei felodïau ac offeryniaeth gain. Ceir hefyd ariâu gwych sydd wedi gwneud Tosca yn un o’r operâu mwyaf poblogaidd yn y byd.

  • Mae perfformiadau yn dechrau am 7.15pm, heblaw am yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 11 Chwe am 4pm, ym Mayflower Theatre, Southampton ar 24 Maw am 4pm ac yn Theatre Royal Plymouth ar 31 Maw am 2pm
  • Bydd y perfformiadau yn para tua dwy awr a 40 munud gyda dwy egwyl
  • Cenir mewn Eidaleg gydag uwchdeitlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)

#WNOtosca

Am fanylion am ddyddiadau, amserau a phrisoedd cliciwch ar eich theatr ddewisol ar y dde.

Dinasoedd

Cast a chreadigolBack to top

Floria Tosca Claire Rutter (9, 11, 16 Chwe, 8, 22, 29 Maw, 4, 6, 11, 13, 18, 20 Ebr)
Mary Elizabeth Williams (21, 23 Chwe, 24, 31 Maw)
Mario Cavaradossi Hector Sandoval (9, 11, 16 Chwe, 8, 22, 29 Maw, 6, 13, 20 Ebr)
Gwyn Hughes Jones (21, 23 Chwe, 24, 31 Maw, 4, 11, 18 Ebr)
Cesare Angelotti Daniel Grice
Sacristan Donald Maxwell
Scarpia Mark S Doss

Arweinydd Carlo Rizzi 9, 11, 16 Chwe, 8 Maw, 6, 13, 18, 20 Ebr)
Timothy Burke (21, 23 Chwe ,22, 24, 29, 31 Maw 4, 11 Ebr)

Cyfarwyddwr Michael Blakemore
Cyfarwyddwr y Diwigiad Benjamin Davis
Cyfarwyddwr Staff Sarah Crisp
Dylunydd Ashley Martin-Davis
Cynllunydd Goleuo Mark Henderson
Cyfarwyddwr Ymladd Terry King

FideoBack to top

SainBack to top

CysylltiedigBack to top