War and Peace | Welsh National Opera

CrynodebBack to top

dydd Sadwrn, Medi 15, 2018 - dydd Sadwrn, Tachwedd 24, 2018

Cynhyrchiad newydd

Yn seiliedig ar nofel Leo Tolstoy, mae naratif War and Peace yn dilyn trallodion cymdeithas Rwsia wrth i Napoleon agosáu at ffiniau'r wlad. Maer Natasha afieithus a'i dyweddi Andrei yn gweld eu cariad ifanc yn cael ei herio gan demtasiwn, tra bod Pierre, bonheddwr idealistig eisiau newid bywyd yn Rwsia er gwell. Wrth i dynged y tri ymblethu yn ystod ymosodiad 1812, maen nhw'n darganfod bod eu straeon yn datblygu yn ystod cyfnod pan fyddai bywyd yn Rwsia yn newid am byth.  

Mae cynhyrchiad newydd David Pountney yr un mor uchelgeisiol ac ar raddfa mor epig â’r nofel ei hun. Gyda set enfawr, tafluniadau fideo a’r gwisgoedd trawiadol gan Marie-Jeanne Lecca yn portreadu urddas cymdeithas Rwsia yn yr 1800au. Bydd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus yn arwain fersiwn unigryw o'r sgôr, yn seiliedig ar argraffiad newydd gan Katya Ermolaeva ac Rita McAllister o waith gwreiddiol Prokofiev, gyda dawnsiau ac ariâu gwych, ac alawon cyffrous.  

Cenir mewn Saesneg gydag uwchdeitlau yn Saesneg (a Chymraeg yng Nghaerdydd a Llandudno)

Cyd-gynhyrchiad gyda Theater Magdeburg

Cefnogir gan Bartneriaid WNO

#WNOwarpeace

 

 

Cast a chreadigolBack to top

Cyfarwyddwr David Pountney
Arweinydd Tomáš Hanus
Dylunydd Setiau Robert Innes Hopkins
Dylunydd Gwisgoedd Marie-Jeanne Lecca
Dylunydd Tafluniad Fideo David Haneke
Dylunydd Golau Malcolm Rippeth
Cyfarwyddwr Cynorthwyol/Coreograffydd Denni Sayers

Natasha Lauren Michelle
Andrei Jonathan McGovern
Pierre Mark Le Brocq
Marie Leah-Marian Jones
Helene Jurgita Adamonyte
Anatole Adrian Dwyer
Kutuzov Simon Bailey
Dolokhov David Stout
Old Prince Bolkonsky Clive Bayley
Count Rostov James Platt